Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 14 Mawrth 2022
Amser:
Times
Not Specified
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12781
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jenny Rathbone AS (Cadeirydd) Jane Dodds AS Tom Giffard AS (yn lle Altaf Hussain AS) Sarah Murphy AS Sioned Williams AS Ken Skates AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Rhys Morgan (Clerc) Rachael Davies (Ail Glerc) Angharad Roche (Dirprwy Glerc) |
1 Cofrestru
1.1 Cofrestrodd y cyfranogwyr ar gyfer y cyfarfod.
2 Sylwadau agoriadol a chroeso gan y Cadeirydd
2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyfranogwyr i'r cyfarfod.
3 Trafodaethau grŵp
3.1 Ymunodd y
cyfranogwyr â’r ystafelloedd trafod i drafod y Cylch
Gorchwyl drafft ar gyfer ymchwiliad i ddiogelwch menywod a thrais
ar sail rhywedd. Dyma gylch gorchwyl drafft yr ymchwiliad:
– Profiad a chanfyddiad menywod a merched o drais ac aflonyddu rhywiol mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru, fel ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn dinasoedd, mewn ysgolion, mewn mannau gwyrdd ac ati. Yr angen / posibilrwydd o ran deddfwriaeth yn y dyfodol i wneud menywod a merched yn fwy diogel yng Nghymru, yn enwedig mewn perthynas ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus.
– Trais yn erbyn menywod a merched yn y cartref, gan gynnwys ymdriniaeth/ dealltwriaeth yr heddlu o’u dyletswydd (ar gais y fenyw) i ymyrryd mewn sefyllfaoedd o drais domestig, hyd yn oed pan fo’n digwydd yn y cartref.
– Ffocws ar grwpiau a materion sydd wedi'u hesgeuluso, i ddeall yn well sut mae trais yn wahanol i rannau gwahanol o'r boblogaeth, yn benodol menywod â statws mewnfudo ansicr, neu’r rhai y mae eu statws mewnfudo yn dibynnu ar briod neu gyflogwr.
– Cwmpas, cyrhaeddiad a’r broses o gomisiynu gwasanaethau ac ymyriadau ar gyfer goroeswyr yng Nghymru, ac unrhyw effaith y mae pandemig COVID-19 wedi’i chael ar sefydliadau trydydd sector sy’n darparu llochesi, cymorth cyfreithiol a gwasanaethau cymorth.
– Dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran atal cychwynnol, ac a wneir digon o ymdrech i atal trais cyn iddo ddigwydd drwy weithio gyda grwpiau allweddol (fel dynion, glasoed a phlant sydd wedi bod yn dyst i gamdriniaeth), ac i newid normau diwylliannol a chymdeithasol sy’n ategu trais ar sail rhywedd.
– A yw dyraniadau cyllideb Llywodraeth Cymru yn ddigonol i weithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 a gweithredu cam nesaf ei strategaeth genedlaethol ar gyfer 2022-26, gan gynnwys ystyried a gafwyd buddsoddiad cost-effeithiol mewn adnoddau i gryfhau arbenigedd mewn sectorau allweddol ac i wella tagfeydd o ran darparu gwasanaethau (h.y. er mwyn i Lywodraeth Cymru gyflawni ei hymrwymiadau polisi i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched).
4 Adborth o’r sesiynau grŵp
4.1 Rhoddodd pob grŵp wybod beth oedd eu canfyddiadau allweddol.
5 Sylwadau i gloi
Diolchodd y Cadeirydd i'r cyfranogwyr am eu cyfraniadau a chaeodd y cyfarfod.